Glantaf look forward to London date


Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf are back in a London rugby league final on Friday 26th August, taking on the same opponents as last year, but it’s not at Wembley Stadium this time around.

On a memorable day at Wembley in 2015, the Cardiff-based Welsh speaking school took on and beat Wade Deacon from Widnes to lift the Year 7 Champion Schools trophy.

The score was 40-6 and after that one Widnes try, there was only going to be one winner.

Glantaf have since been featured on a variety of TV shows as their historic win was celebrated and now, with the pupils in year 8, they have still never lost a rugby league match, and coincidentally take on the same opponents, Wade Deacon in the Year 8 Final at Richmond, home of London Scottish RU (kick-off 1pm).

After storming through the Welsh rounds and winning the Welsh Final 46-12 against Ysgol Y Strade from Llanelli, they beat Hinchley Wood from London 42-12, St Bernard’s of Barrow 26-4 then Saddleworth of Oldham 50-12 in the national semi-final.

Teacher / coach Rhydian Garner says that his side are back in training on Sunday ready for the big day and that there are few changes to the squad who starred at Wembley.

“We’ve two new wingers since last year, otherwise we’ll be selecting from the same squad as last year,” he said.

“We were training up until the end of the summer term and we kick in again on Sunday after three weeks off. It’s always tough to get a full side in training during the school holidays.

“We’re taking on Wade Deacon again but I know it’ll be much tougher this year. We shocked them at Wembley and I don’t think they were expecting us to be that good, so we’ve changed our tactics to mix it up.

“Everything went right for us last year, even them scoring, as it settled us down and made us turn on the style, and we didn’t let off.

“They’ll be really concentrating on the ruck area and they’ll hit us hard, we need to combat that.

“If we get ahead, hopefully we’ll do it again. We’ve won every game in Wales by this year by a large score and had a couple of big wins on the way to this year’s final so we’ve done well. We can’t relax and we can’t go into the game thinking we’re unbeatable.

“Everyone is really looking forward to the whole weekend. We travel up on Thursday and stay two nights. Win or lose, we’ll be parading around Wembley Stadium before the Challenge Cup Final between Hull FC and Warrington Wolves but obviously we’d love it if we were there again as winners.”

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn dychwelyd i Lundain ddydd Gwener 26ain Awst, yn cymryd rhan unwaith eto mewn rownd derfynol rygbi xiii; ond nid yn Stadiwm Wembley y tro hwn.

Ar ddiwrnod cofiadwy yn Wembley yn 2015, trechwyd Wade Deacon o Widnes gan yr ysgol cyfrwng Cymraeg o Gaerdydd i gipio cwpan blwyddyn 7 Pencampwyr Ysgolion.

Ar ol un cais gan Widnes, dim ond un tim buddugol oedd yn bosib, gyda Glantaf yn eu curo o 40-6.

Cynhaliwyd trafodaethau di-ri am Ysgol Glantaf ar amryw o sioeau teledu wrth iddynt ddathlu eu buddugoliaeth hanesyddol a nawr, gyda’r disgyblion bellach ym mlwyddyn 8, maent dal heb eu trechu; ac mewn cyd-ddigwyddiad hollol, byddent yn gwynebu’r un gwrthwynebwyr, Wade Deacon, yn rownd derfynol blwyddyn 8 yn Richmond, cartref clwb rygbi undeb London Scottish (y gic gyntaf 1.00pm).

Ar ol perfformiad penigamp drwy’r rowndiau rhanbarthol ac ennill rownd derfynol Cymru yn erbyn Ysgol y Strade o Lanelli; trechwyd Hinchley Wood o Lundain 42-12, St Bernard’s o Barrow 26-4, ac yn olaf Saddleworth o Oldham 50-12 yn rowndiau cyn-derfynol cenedlaethol.

Yn ol eu hathro a’u hyfforddwr, Rhydian Garner, mae’r tim yn ol yn hyfforddi ddydd Sul, yn barod ar gyfer y diwrnod mawr, ac ychydig o newid yn unig sydd i’r garfan wnaeth chwarae yn Wembley y llynedd.

“Mae gennym ddau asgellwr ers blwyddyn diwethaf; oni bai am hynny byddwn yn dewis o’r un garfan ag y llynedd,” meddai.

“Roeddem yn hyfforddi tan ddiwedd tymor yr haf ac yn ail-ddechrau ddydd Sul ar ol tair wythnos i ffwrdd. Mae bob amser yn beth anodd i gael tim llawn yn hyfforddi yn ystod gwyliau ysgol.

“Rydym yn gwynebu Wade Deacon unwaith eto ond dwi’n gwybod y bydd yn anoddach o lawer eleni. Fe gafon nhw sioc yn Wembley a doedden nhw ddim yn disgwyl i ni fod mor dda a hynny, felly rydym ni wedi newid ein tactegau er mwyn bod yn fwy annisgwyl.

“Aeth popeth o’n plaid ni y llynedd, hyd yn oed pan naethon nhw sgorio cais, oherwydd setlon ni i lawr a chwarae mewn steil, a fe gadwon ni fynd tan y diwedd.

“Byddent yn canolbwyntio ar y ryc a bydd Widnes yn anoddach i’w trin, a bydd rhaid i ni frwydro yn erbyn hynny.

“Os awn ni ar y blaen, gobeithio y byddem yn lwyddiannus unwaith eto. Ryn ni wedi ennill pob gem yng Nghymru eleni gyda sgor uchel, a wedi cael cwpl o fuddugoliaethau da ar y ffordd i’r rownd derfynol felly ryn ni wedi gwneud yn dda. Ni allwn ni ymlacio a ni allwn ni fynd i’r gem yn meddwl na allwn ni gael ein trechu.

“Mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr i’r holl benwythnos. Rydyn yn teithio i fyny ar ddydd Iau ac yn aros dwy noson. Ennill neu golli, byddem yn cerdded o gwmpas Stadiuwm Wembley cyn rownd derfynol y Challenge Cup rhwng Hull FC a Warringon Wolves; ond yn amlwg carwn ni fod yno fel pencampwyr.”