There is a momentous occasion next Monday (11th April) when Wales Rugby League stages what are believed to be the first Rugby League Grand Final matches contested entirely by Welsh speakers.
They are the culmination of the Carnegie Champions Schools Wales Finals series, which sees the top two Rugby League playing schools from each high school year group compete for the honour of being Welsh Champions. Over 150 schools sides from Wales entered this year in competitions that have been taking place since last November.
Monday’s first game is the Year 9 Final between Welsh speaking schools Cwm Rhymni and Ystalyfera High Schools (1pm) while Cwm Rhymni’s Sixth Form side take on their equivalents from Welsh speaking school Llanhari at 2.30pm.
All finals, including four more matches from other age-groups that take place this Friday, are being held at Caerphilly RFC which has become the new home of Wales Rugby League’s big domestic events.
Patron and board member of Wales Rugby League and Assembly Member Janet Ryder, was delighted to hear the news and hopes to be in attendance next Monday.
“This is an amazing achievement and great testimony to how this great game of Rugby League has developed here in Wales,” she said. “It’s also a great testimony to the Welsh language that is growing and growing just like our game. I am very much hoping to get there next Monday as it will be an historic event, not just for the youngsters involved but for Rugby League and the Welsh language.”
Assistant Head Teacher of Ysgol Gyfun Cwm Rhymni Rhys Thomas, who has seen his school reach the Year 7, 9 and Sixth Form finals said: “We’re absolutely delighted that the children are doing so well and have reached the Finals. I think it reflects on the several members of the physical education department of the school who have put in long hours training the pupils after school and at weekends. The sporting prowess of Ysgol Gyfun Cwm Rhymni is exceptional and Rugby League has grown over a number of years here. I’m delighted to see that the achievement has been manifested in them reaching these prestigious finals.
“It’s thrilling that all pupils on the pitch in the two finals will be speaking the Welsh language and we hope to continue that trend in the years to come. It should be celebrated wholeheartedly and it’s all thanks to the professional development of the sport here in South Wales with Crusaders, South Wales Scorpions and Wales Rugby League.”
Mark Jones, National Development Manager for Wales said: “Monday’s two finals are an important piece of history for us, but all six finals over Friday and Monday will be a fantastic conclusion to what has been an outstanding Carnegie Champions Schools season.
“I would like to take this opportunity to thank all schools and teachers who have taken part this year. With adverse weather conditions and teacher cover being a problem, it has needed great commitment and effort to make this tournament such a success.
“Finally, I would like to thank Caerphilly RFC for hosting the Finals days on both Friday and Monday.”
Two full Welsh internationals go up against each other in the sixth form encounter. Llanhari have Jack Pring while Cwm Rhymni field Rhodri Lloyd, the latter having also made senior appearances for South Wales Scorpions. Both players won their first cap against Italy last October.
Here is the full finals schedule for both Friday and Monday. The finals are taking place over two days but co-incidentally, it’s both of the finals on Monday that are contested by the Welsh speakers…
Friday 8th April
10.00 – Year 7 – Cwm Rhymni vs Pencoed
11.00 – Year 8 – St Josephs (Newport) vs Tregib
12.15 – Year 10 – Monmouth vs Maesydderwen
13.45 – Year 11 – Lewis vs Brynteg
Monday 11th April
13.00 – Year 9 – Cwm Rhymni vs Ystalyfera
14.30 – Sixth Form – Cwm Rhymni vs Llanhari
Bydd achlysur hanesyddol ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn rygbi xiii dydd Llun nesaf (11eg Ebrill) wrth i Rygbi Cynghrair Cymru gynnal rowndiau terfynol rygbi xiii gyda’r chwaraewyr i gyd yn siaradwyr Cymraeg.
Penllanw cyfres Pencampwyr Ysgolion Carnegie ydyw’r ornest hon, gyda dwy uchaf ysgolion rygbi xiii Cymru o bob blwyddyn ysgol yn cystadlu i fod yn Bencampwyr Cymru. Fe gystadlodd dros 150 ysgol eleni mewn cystadlaethau sydd wedi bod yn digwydd ers mis Tachwedd 2010.
Gem gyntaf dydd Llun fydd blwyddyn 9 rhwng Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ac Ysgol Gyfun Ystalyfera (1.00pm) tra fydd Chweched Dosbarth Cwm Rhymni yn gwynebu eu tebyg o Ysgol Gyfun Llanhari (2.30pm).
Bydd pob rownd terfynol, yn cynnwys pedair gem arall o ystod oedran eraill sydd yn digwydd ddydd Gwener, yn cael eu cynnal yng Nghlwb Rygbi Caerffili, cartref newydd digwyddiadau domestig.
Roedd noddwr ac aelod o Fwrdd Rygbi Cynghrair Cymru; Aelod Cynulliad Janet Ryder, yn falch iawn o glywed y newyddion ac yn gobeithio bod yn bresennol ddydd Llun.
“Mae hyn yn gyflawniad arbennig a thystiolaeth o sut y mae rygbi xiii wedi ffynnu yma yng Nghymru,” meddai. “Mae’n dystiolaeth arbennig hefyd i iaith sydd yn tyfu a thyfu yn union fel ein gem. Dwi’n gobeithio’n fawr i fod yno ddydd Llun nesaf am ei fod yn ddigwyddiad hanesyddol, nid yn unig i’r ieuenctid ond i rygbi xiii a’r iaith Gymraeg.”
Dywedodd Prifathro Gynorthwyol Ysgol Gyfun Cwm Rhymni , Rhys Thomas sydd wedi gweld ei ysgol yn cyrraedd rownd terfynol oedran blwyddyn 7, 9 a Chweched Dosbarth: “Rydym yn hapus iawn fod y plant yn gwneud mor dda ac wedi cyrraedd y rowndiau terfynol. Credaf ei fod yn adlewyrchu ar lawer o aelodau’r Adran Addysg Gorfforol o’r ysgol sydd wedi rhoi oriau hir yn hyfforddi’r disgyblion ar ol ysgol ac ar benwythnosau. Mae cyflawniadau chwaraeon Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn arbennig ac mae rygbi xiii wedi tyfu dros nifer o flynyddoedd yma. Dwi’n hynod o falch i wedl fod y gamp wedi cael ei amlygu wrth iddynt gyrraedd rowndiau terfynol o fri.
“Mae’n fendigedig fod yr holl ddisgyblion o fewn rowndiau terfynol ar y dydd Llun yn siaradwyr Cymraeg ac fe obeithiwn y byddwn ninnau’n parhau’r arfer am flynyddoedd i ddod. Fe ddylai gael ei dathlu o ddifrif ac mae’r holl ddiolch yn mynd i ddatblygiad proffesiynol o’r gamp yma yn Ne Cymru gyda Crusaders, South Wales Scorpions a Rygbi Cynghrair Cymru.”
Dywedodd Mark Jones, Rheolwr Datblygiad Cenedlaethol i Gymru: “Mae rowndiau terfynol dydd Llun yn ddarnau pwysig o hanes i ni, ond mae’r chwech gem dros ddyddiau Gwener a Llun yn ddiweddglo ardderchog i dymor hynod o lwyddiannus yng nghyfres Pencampwyr Ysgolion Carnegie.
“Hoffaf gymryd y cyfle i ddiolch i bob ysgol ac athro sydd wedi cymryd rhan eleni. Gyda thywydd gwael a diffyg athrawon yn gyffredinol, mae wedi angen ymdrech a llawer o ymrwymiad i wneud y twrnament yn lwyddiant.
“Yn olaf, hoffwn ddiolch i Glwb Rygbi Caerffili am gynnal y rowndiau terfynol ar y dydd Gwener a’r dydd Llun.”
Bydd dau chwaraewr cenedlaethol yn wynebu’i gilydd yng ngem y Chweched Dosbarth. Bydd Jack Pring yn chwarae i Lanhari tra fydd Rhodri Lloyd yn chwarae i Gwm Rhymni; gyda Lloyd wedi chwarae hefyd i dim cyntaf South Wales Scorpions. Fe enillodd y ddau eu capiau cyntaf yn erbyn Yr Eidal fis Hydref diwethaf.
Dyma amserlen llawn yr holl rowndiau terfynol ar gyfer dydd Gwener a dydd Llun. Mae’r gemau yn cymryd lle dros dau ddiwrnod ond cyd-ddigwyddiad ydyw fod y ddau rownd derfynol ddydd Llun sydd yn cael eu cystadlu gan siaradwyr Cymraeg.
Dydd Gwener 8fed Ebrill
10.00 – Blwyddyn 7 – Cwm Rhymni v Pencoed
11.00 – Blwyddyn 8 – St Joseph’s (Casnewydd) v Tregib
12.15 – Blwyddyn 10 – Mynwy v Maesydderwen
13.45 – Blwyddyn 11 – Lewis v Brynteg
Dydd Llun 11eg Ebrill
13.00 – Blwyddyn 9 – Cwm Rhymni v Ystalyfera
14.30 – Chweched Dosbarth – Cwm Rhymni v Llanhari